Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
12 Gorffennaf 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13407
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad gan y Llywydd
Gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn hysbysu’r Aelodau y caiff y balot nesaf ar gyfer Biliau gan Aelodau ei gynnal ar 18 Hydref.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 13.30
NNDM8336 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), a'r rhan o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8335 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
1 Cynnig i sefydlu pwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 13.30
NNDM8335 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
1. Yn sefydlu Pwyllgor Biliau Diwygio i graffu ar Filiau a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.
2. Yn cytuno y bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu naill ai:
a) pan fydd yr holl Filiau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac mae’r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu na fydd unrhyw Filiau pellach yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor; neu
b) pan fydd y Senedd yn penderfynu felly;
pa un bynnag sydd gynharaf.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
2 Cynnig i ddyrannu cadeirydd pwyllgor i grwp gwleidyddol
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Am 13.32, cafodd trafodion eu hatal am 10 munud. Canwyd y gloch 5 munud cyn ailgynnull.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NNDM8337 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grŵp gwleidyddol y caiff cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei ethol ohono fydd grŵp Llafur Cymru.
Roedd y canlyniad fel a ganlyn:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
14 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
3 Enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 13.42
Gwahoddod y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeirydd pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F.
Y Pwyllgor Biliau Diwygio (Llafur)
Cafodd David Rees ei enwebu gan Jack Sargeant.
Eiliodd Sarah Murphy yr enwebiad.
Gan fod gwrthwynebiad i’r enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiad i bleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2l.
Am 18.00 cyhoeddodd y Llywydd ganlyniadau’r bleidlais gyfrinachol ar gyfer ethol cadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
1 |
14 |
52 |
Datganodd y Llywydd bod David Rees wedi’i ethol yn Gadeirydd.
4 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.44
Gofynnwyd cwestiynau 1-8, 10 ac 11. Ni ofynnwyd cwestiwn 9. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
5 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 14.31
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 7 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
6 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad y Llywodraeth na fydd yn darparu prydiau bwyd am ddim i blant ysgol cymwys yn ystod gwyliau'r haf?
Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng sgôr Dŵr Cymru?
Gofyn i Weinidog yr Economi
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i roi'r gorau i'r prosiect banc cymunedol?
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, sydd wedi arwain at ddileu £27.1m yng Nghyfrifon Banc Datblygu Cymru ar gyfer 2022-23?
7 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 16.08.
Gwnaeth Joel James ddatganiad am - Sophie Lisk yn cynrychioli Cymru mewn athletau yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Trinidad a Tobago (4-11 Awst).
8 Dadl y Pwyllgor Cyllid - Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25
Dechreuodd yr eitem am 16.09
NDM8329 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r gwaith ymgysylltu a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb 2024-25, ac yn nodi ymhellach y sylwadau a wnaed gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau a ganlyn:
a) digwyddiad i randdeiliaid ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam;
b) gweithdy gydag aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru; a
c) grwpiau ffocws ymgysylltu â dinasyddion.
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu y Pwyllgor Cyllid
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - Fframweithiau Cyffredin
Dechreuodd yr eitem am 17.10
NDM8328 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef Fframweithiau Cyffredin, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mai 2023.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Dadl ar y cyd y Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Dechreuodd yr eitem am 17.39
NDM8327 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ‘Cefnogi rhieni sydd wedi bod mewn gofal’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 02 Mawrth 2023 ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ‘Os nad nawr, pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2023.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Deisebau yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2023 a gosodwyd yr ymateb i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 5 Gorffennaf 2023.
Cyd-gyflwynwyr
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11 Dadl Plaid Cymru - Ystâd y Goron
Dechreuodd yr eitem am 18.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8326 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Ystâd y Goron, ar lefel y DU, wedi cofnodi elw refeniw net o £442.6m yn y flwyddyn ariannol 2022-23; a
b) bod gwerth asedau Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd £603 miliwn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021.
2. Yn credu y gellid gwireddu nodau sero-net Cymru yn fwy effeithiol pe bai ganddi reolaeth lawn dros ei hadnoddau.
3. Yn galw am ddatganoli pwerau dros reoli Ystâd y Goron a'i hasedau yng Nghymru.
Creating lasting and shared prosperity for the nation -The Crown Estate (Saesneg yn unig)
Uchafbwyntiau Cymru 2020/21 - Ystâd y Goron
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
13 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgor - Y Pwyllgor Biliau Diwygio
Dechreuodd yr eitem am 19.48
NNDM8338 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Sarah Murphy (Llafur Cymru), Darren Millar (y Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Biliau Diwygio.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 19.49
NNDM8334 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Buffy Williams (Llafur Cymru) yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn lle Sarah Murphy (Llafur Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 19.49
NNDM8332 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol mai’r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yw’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu trafod NDM8331 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
12 Cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog - Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru
Dechreuodd yr eitem am 19.50
NDM8331 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2023.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol Sefydlog 35 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith yn dilyn penderfyniad gan y Senedd y dylai’r Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ddod i ben, neu pan gaiff y Senedd hon ei diddymu, pa un bynnag sydd gyntaf.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
13 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 19.50
14 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 19.52
NDM8330 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Pwysigrwydd dysgu CPR i holl Aelodau o'r Senedd
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 20.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Medi 2023